Neidio i'r prif gynnwys

Mae hwn yn wasanaeth newydd - bydd eich adborth (agor mewn ffenestr newydd) yn ein helpu i’w wella.

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Anfon eich nodyn ffitrwydd ar gyfer eich cais ESA

Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK ar wahân

Nid yw'r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am Anfon eich nodyn ffitrwydd ar gyfer eich gwasanaeth hawlio ESA, sydd ar gael yn https://www.gov.uk/anfon-eich-nodyn-ffitrwydd-ar-gyfer-eich-cais-esa

Defnyddio'r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym am i gymaint o bobl ȃ phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnu a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin

Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth mor syml ȃ phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

howAccessibleThisServiceIs.h2

howAccessibleThisServiceIs.p1

Beth i'w wneud os ydych chi'n cael anhawster defnyddio'r gwasanaeth hwn

Os ydych chi'n cael anhawster defnyddio'r gwasanaeth hwn, ysylltwch â DWP am hygyrchedd.

Fel rhan o ddarparu'r gwasanaeth hwn, efallai y bydd angen i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch. Byddwn yn gofyn i chi sut rydych am i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch, ond cysylltwch â ni os bydd eu hangen arnoch mewn fformat gwahanol. Er enghraifft, print bras, recordiad sain neu braille.

reportingAccessibilityProblems.h2

reportingAccessibilityProblems.p1

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrch Cyrff Sector Cyhoeddus 2018 (Gwefannau a Chymhwysiadau Symudol) (Rhif 2) (“y rheoliadau hygyrchedd”). Os na fyddwch yn fodlon o ran sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb(EASS)

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018 (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2).

Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.2.

Sut wnaethom brofi'r gwasanaeth hwn

Profwyd y gwasanaeth ddiwethaf ar 17 Medi 2025 a gwiriwyd ei fod yn cydymffurfio â WCAG 2.2 AA. Cafodd y profion eu cynnal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Profwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio profion â llaw ac awtomataidd.

Paratowyd y dudalen hon ar 7 Gorffennaf 2022.